

Amdana i
Dwi’n byw ym Mynwent y Crynwyr ag yn gweithio yn yr ardaloedd cyfagos. Yn ddiweddar dwi wedi penderfynu newid gyrfa i wneud rhywbeth dwi'n teimlo'n angerddol amdani.
Dwi'n credu'n gryf bod e'n bwysig i bobl allu mwynhau eu gerddi a mannau allanol, hyd yn oed os taw dim ond edrych trwy'r ffenest mae rhywun yn neud. Dwi wrth fy modd yn cael cyfle i dwtio gerddi neu rhoi trawsnewidiad cyfan iddynt.
Dywed rhait taw ffawd yw'r ffaith fy mod yn garddio gan i fy rieni fy enwi yn Katherine Elizabeth fel gall fy blaenlythrennau sillafu KEW ar ol Kew Gardens, lleoliad eu dêt cyntaf. Dechreuodd fy niddordeb mewn garddio yn fy ugeiniau hwyr ac eleni gorffennais astudio ar gyfer Tystysgrif Lefel 2 RHS yn Garddwriaeth.
Gwasanaethau
Mae gen iddiddordeb yn yr amgylchfyd ac mewn garddio organic felly dwi ddim yn defnyddio chwynladdwyr na phlaladdwyr, ond yn hytrach yn dewis ffeindio ffordd organic i ddatrys y broblem.
Does gen iddim trwydded cario gwastraff ar hyn o bryd, felly allai ddim mynd a'r gwastraff gwyrdd o'ch tŷ, ond mi wnai wneud yn siwr bod popeth wedi ei rhoi yn daclus yn eich bagiau gwyrdd yn barod ar gyfer eich casgliad gan y cyngor. Os nad oes bin gwyrdd gyda chi, allai eich helpu chi i archebu un oddi wrth eich cyngor. Os oes well gyda chi fe allai adeiladu tomen compost neu creu bagiau llwydni dail er mwyn i chi ddefnyddio yn eich gardd.
Dwi wedi fy yswirio'n llawn. Mae gen i dystysgrif GDG.
Mae’r gwasanaethau garddio dwi’n cynnig yn cynnwys:
chwynnu,clirio dail, torri glaswellt/lawnt, strimio, plannu, tocio, cynnal a chadw ymylon, trimio perthi (hyd at 6 metr), trwsio ffens.
Os oes angen cymorth a rhywbeth nad yw ar y rhestr uchod, cysylltwch a wnai weld os allai eich helpu.
Cysylltwch
Cysylltwch a fi am unrhyw swyddi garddio, bach neu mawr.
Os ydych yn ebostio peidiwch anghofio edrych yn eich ffolder Spam.
© 2023
Privacy Policy